Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2016
Amser: 08.30 -
09.15
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Simon Thomas AC Paul Davies AC Mark Reckless AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Busnes yr Wythnos Hon
Dydd Mawrth
Byddai'r Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar flaenoriaethau'r Llywodraeth.
Byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwneud datganiad ar yr Adolygiad Ymarfer Plant i Farwolaeth Dylan Seabridge.
Byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn gwneud datganiad ar y Gronfa Triniaethau newydd.
Cafodd y Datganiad gan y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth ar Glwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Cymru ei dynnu'n ôl a byddai'n cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig.
Dydd Mercher
Byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn gwneud datganiad ar Gylchdaith Cymru.
Byddai cynigion yn cael eu cymryd i newid aelodaeth UKIP ar bwyllgorau.
Byddai Dadl Fer Bethan Jenkins, a ohiriwyd yr wythnos flaenorol, yn digwydd ar ôl y Ddadl Fer gan Mike Hedges.
Pleidleisio
Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Dadleuon Byrion ddydd Mercher.
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Gofynnodd y Llywydd pryd roedd y Llywodraeth yn bwriadu dwyn dadl gerbron ar ei blaenoriaethau a'i rhaglen ddeddfwriaethol, sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 11.21(ii). Cadarnhaodd Arweinydd y Tŷ y byddai'r ddadl yn digwydd yn y dyfodol agos.
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai Busnes y Cynulliad yn cael ei drefnu yn ôl y trefniadau presennol ar gyfer dadleuon gan Aelodau Unigol a dadleuon y gwrthbleidiau, hyd nes y gwneir penderfyniad ar ddiwygio'r defnydd a wneir o amser y Cynulliad.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 14 Medi 2016 –
· Cynnig i newid cylch gorchwyl y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
Dydd Mercher 28 Medi 2016 –
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl Fer - Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)
Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)
Yng nghyfarfod yr wythnos ddiwethaf, cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Cyllid ar gyfer craffu arno. Cyflwynodd y Gweinidog bapur i'r Pwyllgor Busnes, yn nodi'r dyddiadau arfaethedig ar gyfer ystyried y Bil, ond nid oedd yn cynnwys dyddiadau ar gyfer ystyried gwelliannau Cyfnod 2.
Bu'r Rheolwyr Busnes yn trafod y dyddiadau arfaethedig a chytunwyd y dylai'r amserlen gynnwys terfyn amser dangosol ar gyfer ystyried gwelliannau Cyfnod 2 a gallai hyn newid.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i swyddogion y Llywodraeth a'r Comisiwn gysylltu â'i gilydd er mwyn cytuno ar ddyddiad arfaethedig ar gyfer Cyfnod 2 i'w gynnwys yn yr ymgynghoriad gyda'r Pwyllgor Cyllid, a chytunwyd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod cyntaf ar ôl toriad yr haf.
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Amserlen y Gyllideb Ddrafft
Bu'r Pwyllgor yn trafod llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn gofyn am wythnos o estyniad i'r amserlen arfaethedig, o bedair i bum wythnos pan fydd y Cynulliad yn cyfarfod, er mwyn cael craffu ar y Gyllideb Ddrafft yn llawn a phriodol.
Cytunodd Simon Thomas, Paul Davies a Mark Reckless y
dylid rhoi estyniad o wythnos i'r Pwyllgor Cyllid, ond esboniodd
Arweinydd y Tŷ y byddai hyn yn achosi anawsterau i'r
Llywodraeth.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i swyddogion y Llywodraeth a'r Comisiwn ystyried opsiynau posibl ac i'r Pwyllgor ddychwelyd at y mater yn ystod yr wythnos gyntaf yn ôl ar ôl toriad yr haf.
Cylch gwaith y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn
Bu'r Rheolwyr Busnes yn trafod papur ar newidiadau i gylch gorchwyl y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn a chytunwyd i gyflwyno cynnig ddydd Mercher 14 Medi i'r perwyl hwnnw, yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Llywydd y byddai'n ysgrifennu at gadeiryddion y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol yn nodi eu cylchoedd gwaith newydd.
Y defnydd o amser y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn
Trafododd y Pwyllgor bapur ac ynddo opsiynau ar gyfer amrywio'r ffordd y defnyddir amser y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymchwilio i ragor o opsiynau ynghylch datganiadau Aelodau; dadleuon ar ddeisebau; dadleuon cyhoeddus a chwestiynau'r llefarwyr.
Gan fod cefnogaeth gyffredinol i'r syniad o ddatganiadau pwyllgor, bydd y Llywydd yn ysgrifennu at gadeiryddion y pwyllgorau yn eu hannog i gyflwyno datganiadau ar waith y pwyllgorau o fis Medi ymlaen.
Amser cyfarfod Comisiwn y Cynulliad ac amserlen y pwyllgorau
Trafododd y Pwyllgor bapur amserau posibl ar gyfer cyfarfodydd y Comisiynwyr yn y tymor newydd.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cynnwys amserau cyfarfodydd y Comisiwn yn amserlen y Cynulliad ar brynhawniau Llun ac y dylid trefnu cynnal cyfarfodydd y Pwyllgorau sy'n cwrdd ar yr un diwrnod ar ôl 15.00. Dylid cytuno ar ddyddiadau cyfarfodydd y Comisiwn erbyn wythnos olaf y tymor blaenorol fan bellaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid trefnu cyfarfod nesaf y Pwyllgor Busnes ar gyfer 8.30 ddydd Mawrth 13 Medi ac yn y cyfarfod hwnnw, byddai'r Rheolwyr Busnes yn cadarnhau a ddylid parhau i gwrdd am 08.30 neu beidio.